- Главная
- Лингвистика
- Ein tafod powerpoint
Содержание
Слайд 2
Слайд 3
Un diwrnod, pan oedd Jo yn palu’r ardd, fe drawodd ei
Un diwrnod, pan oedd Jo yn palu’r ardd, fe drawodd ei
fforch yn erbyn rhywbeth caled yn y pridd. Fe dyllodd yn ddyfnach a dod o hyd i hen focs metel. Wedi iddo rwbio’r pridd oddi arno a’i agor, fe welodd fod 12 darn aur yn y bocs. Fe wyddai, pe byddai’n dweud wrth Nani y byddai hi’n dweud wrth bawb, a doedd ar Jo ddim eisiau i bawb ddod i wybod eu busnes. Efallai y byddai rhywrai yn dod yno i geisio’i berswadio mai nhw oedd piau’r arian.
Felly, penderfynodd Jo ddysgu gwers i Nani. Yn gyntaf, fe guddiodd y bocs yn ei sied yn yr ardd. Yna fe aeth at yr afon a dal pysgodyn mawr. Aeth â’r pysgodyn i’w ardd a’i roi rhwng y rhesi pys. Wedyn fe aeth i’r cae a dal cwningen a’i rhoi yn y rhwyd bysgota wrth yr afon.
Слайд 4
Слайд 5
Galwodd ar Nani. ‘Bobol bach !’ meddai. ‘Mae rhywbeth rhyfedd yn
Galwodd ar Nani. ‘Bobol bach !’ meddai. ‘Mae rhywbeth rhyfedd yn
digwydd yn y lle yma! Edrych, mae pysgod yn byw ymysg y pys!’ Yna, fe aeth â Nani at yr afon. ‘Edrych,’ meddai ‘Mae cwningen yn byw yn yr afon! Mae pysgod yn byw ar y tir a chreaduriaid y goedwig yn byw yn y dwr!’
Allai Nani ddim aros nes cael dweud wrth rywun. Rhedodd i lawr i’r pentref a dweud wrth bawb a welodd yno am y pethau rhyfedd oedd yn digwydd. Daeth rhai pobl i’r bwthyn i weld drostyn nhw’u hunain ond, wrth gwrs, roedd yr hen Jo wedi symud y pysgodyn a’r gwningen erbyn hynny. Doedd dim tystiolaeth, felly doedd neb yn credu stori Nani. Ar ôl hynny doedden nhw ddim am gredu dim o’i straeon.
Слайд 6
Ar ôl peth amser, fe ddywedodd yr hen Jo wrth Nani
Ar ôl peth amser, fe ddywedodd yr hen Jo wrth Nani
am y bocs roedd o wedi dod o hyd iddo yn yr ardd, a’r darnau aur ynddo. Ac fel roedd Jo’n disgwyl, fe aeth Nani ar ei hunion i’r pentref i ddweud wrth bawb. Ond, yn naturiol doedd neb yn ei chredu.
‘Diolch byth am hynny,’ meddai Jo. ‘Nawr, fe allwn ni fyw’n gyfforddus am weddill ein hoes, a fydd neb yn gwybod ein cyfrinach.’ A dyna beth ddigwyddodd, wnaeth Nani ddim cario rhagor o straeon am ei bod yn gwybod erbyn hynny na fyddai neb yn coelio unrhyw beth a ddywedai. Roedd cynllun yr hen Jo wedi gweithio.